Neath Port Talbot 2 logoNeath Port Talbot 2

Get project news

Do you want to receive an email when news items are posted?

News on Neath Port Talbot 2

Back to news

Final Week: where we need more input /Yr Wythnos Olaf: ble mae angen mwy o fewnbwn arnom ni

Time is running out to have your say on Neath Port Talbot’s walking and cycling survey. There have been over 200 contributions so far and 10 competition winners of our photo competition.

Your opinion really does matter and we added an additional 127km of routes on the draft Active Travel Network Map as a direct result of response in the first consultation.

In this final week of the consultation we are asking for your help to ensure we have views from a wide range of people in Neath Port Talbot, and in particular from:

o Under 29’s

o Over 75’s

o Females

o People with restricted mobility

o Members of Black and Minority Ethnic communities

o People living or working in Glynneath, Blaengwrach or Seven Sisters.

Are you one of these groups? Do you know someone who is? Visit www.npt.gov.uk/activetravel by the 22nd October to have your say and help shape the future of walking and cycling in Neath Port Talbot.

Mae amser yn mynd yn brin i chi leisio eich barn yn arolwg cerdded a beicio Castell-nedd Port Talbot. Cafwyd mwy na 200 o gyfraniadau hyd yma, a 10 enillydd yn ein cystadleuaeth ffotograffau .

Mae eich barn yn wir yn bwysig, ac fe wnaethon ni ychwanegu 127km at y llwybrau ar y Map drafft o'r Rhwydwaith Teithio Llesol yn uniongyrchol o ganlyniad i'ch ymateb yn yr ymgynghoriad cyntaf.

Yn ystod yr wythnos hon, wythnos olaf yr ymgynghoriad, rydyn ni'n gofyn am eich help i sicrhau bod gennym ni farn ystod eang o bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac yn arbennig:

o Pobl o dan 29 oed

o Pobl dros 75 oed

o Benywod

o Pobl â symudedd cyfyngedig

o Aelodau o gymunedau Du ac Ethnig Lleiafrifol

o Pobl sy'n byw neu'n gweithio yng Nglyn-nedd, Blaengwrach neu Flaendulais.

Ydych chi'n perthyn i un o'r grwpiau hyn? Ydych chi'n nabod rhywun sy'n perthyn i un ohonyn nhw?

Ewch i www.npt.gov.uk/activetravel erbyn 22 Hydref i roi eich barn a helpu i ffurfio dyfodol cerdded a beicio yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Posted on 19th October 2021

by Neath Port Talbot Council / Gyngor Castell-nedd Port Talbot